Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 3:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yn y dyddiau pan oedd y bachgen Samuel yn gwasanaethu'r ARGLWYDD gerbron Eli, yr oedd gair yr ARGLWYDD yn brin, a gweledigaeth yn anfynych.

2. Un noswaith yr oedd Eli yn gorwedd yn ei le, ac yr oedd ei lygaid wedi dechrau pylu ac yntau'n methu gweld.

3. Nid oedd lamp Duw wedi diffodd eto, ac yr oedd Samuel yn cysgu yn nheml yr ARGLWYDD, lle'r oedd arch Duw.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 3