Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 28:3-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Yr oedd Samuel wedi marw, ac yr oedd Israel gyfan wedi galaru amdano a'i gladdu yn ei dref ei hun, Rama. Ac yr oedd Saul wedi gyrru ymaith y dewiniaid a'r swynwyr o'r wlad.

4. Pan ymgasglodd y Philistiaid a dod a gwersyllu yn Sunem, fe gasglodd Saul Israel gyfan a gwersyllu yn Gilboa.

5. Ond, pan welodd Saul wersyll y Philistiaid, cododd ofn a dychryn mawr yn ei galon.

6. Ceisiodd Saul yr ARGLWYDD, ond nid oedd yr ARGLWYDD yn ateb trwy freuddwydion na bwrw coelbren na phroffwydi.

7. Yna dywedodd Saul wrth ei weision, “Chwiliwch am ddewines, imi ymweld â hi i ofyn ei chyngor.”

8. Dywedodd ei weision wrtho, “Y mae yna ddewines yn Endor.” Newidiodd Saul ei ymddangosiad, a gwisgo dillad gwahanol, ac aeth â dau ddyn gydag ef a dod at y ddynes liw nos a dweud, “Consuria imi trwy ysbryd, a dwg i fyny ataf y sawl a ddywedaf wrthyt.”

9. Dywedodd y ddynes wrtho, “Fe wyddost beth a wnaeth Saul, ei fod wedi difa'r dewiniaid a'r swynwyr o'r wlad; pam felly yr wyt ti'n ceisio fy rhwydo a'm lladd?”

10. Tyngodd Saul iddi yn enw'r ARGLWYDD, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, ni ddaw dim niwed iti o hyn.”

11. Yna gofynnodd hi, “Pwy a ddygaf i fyny iti?” Dywedodd yntau, “Dwg Samuel i fyny imi.”

12. Pan welodd y ddynes Samuel, gwaeddodd â llais uchel, a dweud wrth Saul, “Pam yr wyt wedi fy nhwyllo? Saul wyt ti.”

13. Dywedodd y brenin wrthi, “Paid ag ofni; beth wyt yn ei weld?” Ac meddai'r ddynes wrth Saul, “Rwy'n gweld ysbryd yn dod i fyny o'r ddaear.”

14. Gofynnodd yntau, “Sut ffurf sydd iddo?” Atebodd hithau, “Hen ŵr yn gwisgo mantell sy'n dod i fyny.” Deallodd Saul mai Samuel oedd, a gostyngodd ar ei wyneb i'r llawr ac ymgrymu.

15. Yna dywedodd Samuel wrth Saul, “Pam yr wyt wedi aflonyddu arnaf a dod â mi i fyny?” Atebodd Saul, “Y mae'n gyfyng iawn arnaf; y mae'r Philistiaid yn rhyfela yn f'erbyn, a Duw wedi fy ngadael; nid yw'n fy ateb mwyach drwy na phroffwydi na breuddwydion, a gelwais arnat ti i ddweud wrthyf beth i'w wneud.”

16. Ac meddai Samuel, “Ond pam yr wyt yn gofyn i mi, a'r ARGLWYDD wedi dy adael a dod yn wrthwynebwr iti?

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 28