1. Meddyliodd Dafydd, “Rhyw ddiwrnod fe'm difethir trwy law Saul; y peth gorau i mi fydd dianc draw i wlad Philistia, fel na fydd gan Saul obaith dod o hyd imi yn unman o fewn cyrrau Israel; a byddaf yn ddiogel o'i gyrraedd.”
2. Felly cychwynnodd Dafydd, a'r chwe chant o ddynion oedd gydag ef, a mynd at Achis fab Maoch, brenin Gath.
3. Arhosodd Dafydd gydag Achis yn Gath, ef a'i ddynion a'u teuluoedd; a chyda Dafydd yr oedd ei ddwy wraig, Ahinoam o Jesreel ac Abigail, gwraig Nabal o Garmel.
4. Pan ddywedwyd wrth Saul fod Dafydd wedi ffoi i Gath, rhoddodd yntau'r gorau i chwilio amdano.
5. Dywedodd Dafydd wrth Achis, “Os gweli'n dda, gad imi gael lle i fyw yn un o'r trefi cefn gwlad. Pam y dylai dy was fyw yn y brifddinas gyda thi?”
6. Yr adeg honno rhoddodd Achis iddo Siclag, a dyna pam y mae Siclag yn perthyn i frenhinoedd Jwda hyd heddiw.
7. Am gyfnod o flwyddyn a phedwar mis y bu Dafydd yn byw yng nghefn gwlad Philistia.
8. Byddai Dafydd a'i filwyr yn mynd allan ac yn ymosod ar y Gesuriaid a'r Gersiaid a'r Amaleciaid (oherwydd hwy oedd yn preswylio'r wlad o Telam, ar y ffordd i Sur, hyd at yr Aifft).
9. Pan fyddai'n taro ardal, ni adawai'n fyw na dyn na dynes; a byddai'n cymryd defaid, gwartheg, asynnod, camelod a gwisgoedd, ac yna'n dychwelyd at Achis.
10. Pan fyddai Achis yn gofyn, “I ble'r oedd eich cyrch heddiw?” byddai Dafydd yn ateb, “O, yn erbyn Negef Jwda”; neu, “Yn erbyn Negef y Jerahmeeliaid”; neu, “Yn erbyn Negef y Ceneaid”.
11. Nid oedd Dafydd yn gadael yr un dyn na dynes yn fyw i gario newyddion i Gath, rhag iddynt adrodd yr hanes a dweud, “Fel hyn y gwnaeth Dafydd, a dyma'i arfer tra bu'n byw yng nghefn gwlad Philistia.”
12. Yr oedd Achis yn credu Dafydd ac yn meddwl, “Yn sicr y mae wedi ei ffieiddio gan ei bobl Israel, a bydd yn was i mi am byth.”