8. Gofyn i'th lanciau, ac fe ddywedant wrthyt. Felly rho dderbyniad caredig i'm llanciau innau, oherwydd daethom ar ddiwrnod da; rho'r hyn sydd agosaf at dy law i'th weision ac i'th fab Dafydd.’ ”
9. Daeth llanciau Dafydd a dweud y geiriau hyn i gyd yn enw Dafydd.
10. Wedi iddynt orffen, atebodd Nabal a dweud wrth weision Dafydd, “Pwy yw Dafydd, a phwy yw mab Jesse? Y mae llawer o weision yn dianc oddi wrth eu meistri y dyddiau hyn.
11. A wyf fi i gymryd fy mara a'm dŵr a'r cig a leddais ar gyfer fy nghneifwyr, a'u rhoi i ddynion na wn o ble y maent?”
12. Troes llanciau Dafydd i ffwrdd, a dychwelyd at Ddafydd a dweud hyn i gyd wrtho.
13. Dywedodd Dafydd wrth ei ddynion, “Gwregyswch bawb ei gleddyf.” Wedi iddynt hwy a Dafydd hefyd wregysu eu cleddyfau, aeth tua phedwar cant ohonynt i fyny ar ôl Dafydd, gan adael dau gant gyda'r offer.
14. Yr oedd un o'r llanciau wedi dweud wrth Abigail, gwraig Nabal, “Clyw, fe anfonodd Dafydd negeswyr o'r diffeithwch i gyfarch ein meistr, ond fe'u difrïodd.
15. Bu'r dynion yn dda iawn wrthym ni, heb ein cam-drin na pheri dim colled inni yr holl adeg y buom yn ymdroi gyda hwy pan oeddem yn y maes.
16. Buont yn fur inni, nos a dydd, yr holl adeg y buom yn bugeilio'r praidd yn eu hymyl.
17. Ystyria'n awr ac edrych beth y gelli ei wneud, oherwydd y mae drwg wedi ei bennu i'n meistr ac yn erbyn ei deulu i gyd, ond y mae ef yn ormod o ddihiryn i neb ddweud dim wrtho.”
18. Brysiodd Abigail a chymryd dau gan torth o fara a dwy botel o win, pum dafad wedi eu paratoi a phum hobaid o greision, a hefyd can swp o rawnwin a dau gant o ffigys. Llwythodd hwy ar asynnod,
19. a dywedodd wrth ei gweision, “Ewch o'm blaen; byddaf finnau'n dod ar eich ôl.” Ond ni ddywedodd ddim wrth ei gŵr Nabal.
20. Fel yr oedd hi ar gefn ei hasyn yn dod i lawr llechwedd y mynydd, yr oedd Dafydd a'i wŷr yn dod i lawr tuag ati, a chyfarfu â hwy.
21. Yr oedd Dafydd wedi dweud, “Y mae'n amlwg mai'n ofer y bûm yn gwarchod holl eiddo hwn yn y diffeithwch, heb iddo golli dim o'r cwbl oedd ganddo; y mae wedi talu imi ddrwg am dda.
22. Gwnaed Duw fel hyn i mi, a rhagor, os gadawaf ar ôl erbyn y bore un gwryw o'r rhai sy'n perthyn iddo.”
23. Pan welodd Abigail Ddafydd, brysiodd i ddisgyn oddi ar yr asyn, ac ymgrymodd ar ei hwyneb a phlygu i'r llawr o flaen Dafydd.
24. Wedi iddi syrthio wrth ei draed, dywedodd, “Arnaf fi, syr, y bydded y bai; gad imi egluro'n awr, a gwrando dithau ar eiriau dy wasanaethferch.