Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 25:13-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Dywedodd Dafydd wrth ei ddynion, “Gwregyswch bawb ei gleddyf.” Wedi iddynt hwy a Dafydd hefyd wregysu eu cleddyfau, aeth tua phedwar cant ohonynt i fyny ar ôl Dafydd, gan adael dau gant gyda'r offer.

14. Yr oedd un o'r llanciau wedi dweud wrth Abigail, gwraig Nabal, “Clyw, fe anfonodd Dafydd negeswyr o'r diffeithwch i gyfarch ein meistr, ond fe'u difrïodd.

15. Bu'r dynion yn dda iawn wrthym ni, heb ein cam-drin na pheri dim colled inni yr holl adeg y buom yn ymdroi gyda hwy pan oeddem yn y maes.

16. Buont yn fur inni, nos a dydd, yr holl adeg y buom yn bugeilio'r praidd yn eu hymyl.

17. Ystyria'n awr ac edrych beth y gelli ei wneud, oherwydd y mae drwg wedi ei bennu i'n meistr ac yn erbyn ei deulu i gyd, ond y mae ef yn ormod o ddihiryn i neb ddweud dim wrtho.”

18. Brysiodd Abigail a chymryd dau gan torth o fara a dwy botel o win, pum dafad wedi eu paratoi a phum hobaid o greision, a hefyd can swp o rawnwin a dau gant o ffigys. Llwythodd hwy ar asynnod,

19. a dywedodd wrth ei gweision, “Ewch o'm blaen; byddaf finnau'n dod ar eich ôl.” Ond ni ddywedodd ddim wrth ei gŵr Nabal.

20. Fel yr oedd hi ar gefn ei hasyn yn dod i lawr llechwedd y mynydd, yr oedd Dafydd a'i wŷr yn dod i lawr tuag ati, a chyfarfu â hwy.

21. Yr oedd Dafydd wedi dweud, “Y mae'n amlwg mai'n ofer y bûm yn gwarchod holl eiddo hwn yn y diffeithwch, heb iddo golli dim o'r cwbl oedd ganddo; y mae wedi talu imi ddrwg am dda.

22. Gwnaed Duw fel hyn i mi, a rhagor, os gadawaf ar ôl erbyn y bore un gwryw o'r rhai sy'n perthyn iddo.”

23. Pan welodd Abigail Ddafydd, brysiodd i ddisgyn oddi ar yr asyn, ac ymgrymodd ar ei hwyneb a phlygu i'r llawr o flaen Dafydd.

24. Wedi iddi syrthio wrth ei draed, dywedodd, “Arnaf fi, syr, y bydded y bai; gad imi egluro'n awr, a gwrando dithau ar eiriau dy wasanaethferch.

25. Paid â chymryd sylw o'r dihiryn yma, Nabal. Y mae yr un fath â'i enw: Nabal, sef Ynfyd, yw ei enw, ac ynfyd yw ei natur. Ni welais i, dy wasanaethferch, mo'r llanciau a anfonaist ti, syr.

26. Felly'n awr, syr, cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau hefyd, gan i'r ARGLWYDD dy atal rhag dod i dywallt gwaed a dial drosot dy hun, bydded dy elynion a'r rhai sy'n ceisio drwg iti, syr, fel Nabal.

27. Yn awr, daeth dy wasanaethferch â'r rhodd hon iti, syr, i'w rhoi i'r llanciau sy'n dy ganlyn.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 25