Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 24:6-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. a dywedodd wrth ei ddynion, “Yr ARGLWYDD a'm gwared rhag imi wneud y fath beth i'm harglwydd, eneiniog yr ARGLWYDD, ac estyn llaw yn ei erbyn, oherwydd eneiniog yr ARGLWYDD yw.”

7. Ataliodd Dafydd ei wŷr â'r geiriau hyn rhag iddynt ymosod ar Saul.

8. Pan ymadawodd Saul â'r ogof a mynd i'w daith, aeth Dafydd allan o'r ogof a galw ar ei ôl a dweud, “F'arglwydd frenin!” A phan edrychodd Saul yn ôl, plygodd Dafydd â'i wyneb at y llawr ac ymgrymu.

9. Yna dywedodd Dafydd wrth Saul, “Pam y gwrandewaist ar eiriau'r dynion sy'n dweud fod Dafydd yn ceisio niwed i ti?

10. Heddiw fe weli â'th lygaid dy hun i'r ARGLWYDD dy roi yn fy llaw heddiw yn yr ogof; a dywedwyd wrthyf am dy ladd, ond trugarheais wrthyt a dweud, ‘Nid estynnaf fy llaw yn erbyn f'arglwydd, oherwydd eneiniog yr ARGLWYDD yw.’

11. Edrych, fy nhad, ie, edrych, dyma gwr dy fantell yn fy llaw. Gan imi dorri cwr dy fantell heb dy ladd, fe ddylit wybod a gweld nad oedd dim malais na gwrthryfel ynof. Ni wneuthum gam â thi, ond eto yr wyt yn ymlid ar fy ôl i'm dal.

12. Bydded i'r ARGLWYDD farnu rhyngom a dial arnat, ond ni fydd fy llaw i arnat.

13. Fel y dywed yr hen ddihareb, ‘O'r drygionus y daw drygioni.’ Ond ni fydd fy llaw i arnat.

14. Ar ôl pwy yr aeth brenin Israel? Pwy wyt ti'n ei ymlid? Ci marw! Chwannen!

15. Fe gaiff yr ARGLWYDD fod yn ddyfarnwr a barnu rhyngom a'n gilydd; caiff ef chwilio a dadlau f'achos a'm rhyddhau o'th law.”

16. Wedi i Ddafydd orffen llefaru fel hyn wrth Saul, meddai Saul: “Dafydd, fy mab, ai dy lais di yw hwn?” Yna fe dorrodd allan i wylo.

17. Ac meddai wrth Ddafydd, “Yr wyt ti yn fwy cyfiawn na mi, oherwydd yr wyt ti wedi talu da i mi, a minnau wedi talu drwg i ti.

18. Ac yr wyt wedi dangos mor dda fuost tuag ataf heddiw, pan oedd yr ARGLWYDD wedi fy rhoi yn dy law, a thithau'n ymatal rhag fy lladd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 24