11. A fydd awdurdodau Ceila yn fy rhoi iddo? A ddaw Saul i lawr fel y clywodd dy was? O ARGLWYDD Dduw Israel, rho ateb i'th was.” Atebodd yr ARGLWYDD, “Fe ddaw.”
12. Yna gofynnodd Dafydd, “A fydd awdurdodau Ceila yn fy rhoi i a'm gwŷr yn llaw Saul?” Atebodd yr ARGLWYDD, “Byddant.” Yna cododd Dafydd gyda'i wŷr, tua chwe chant ohonynt, ac aethant o Ceila a symud o le i le.
13. Pan ddywedwyd wrth Saul fod Dafydd wedi dianc o Ceila, peidiodd â chychwyn allan.
14. Tra oedd Dafydd yn byw mewn llochesau yn y diffeithwch ac yn aros yn y mynydd-dir yn niffeithwch Siff, yr oedd Saul yn chwilio amdano trwy'r adeg, ond ni roddodd Duw ef yn ei law.
15. Yr oedd Dafydd yn gweld mai dod allan i geisio'i fywyd yr oedd Saul; felly arhosodd Dafydd yn Hores yn niffeithwch Siff.
16. Aeth Jonathan fab Saul draw i Hores at Ddafydd a'i galonogi trwy Dduw
17. a dweud wrtho, “Paid ag ofni; ni ddaw fy nhad Saul o hyd iti; byddi di'n frenin ar Israel a minnau'n ail iti, ac y mae fy nhad Saul yn gwybod hynny'n iawn.”
18. Gwnaethant gyfamod ill dau gerbron yr ARGLWYDD; arhosodd Dafydd yn Hores, ac aeth Jonathan adref.
19. Aeth pobl Siff at Saul i Gibea a dweud, “Onid yw Dafydd yn ymguddio yn ein hardal, yn llochesau Hores ym mryniau Hachila i'r de o Jesimon?
20. Pryd bynnag yr wyt ti'n dymuno, O frenin, tyrd i lawr, a rhown ninnau ef yn llaw'r brenin.”
21. Ac meddai Saul, “Bendigedig fyddoch gan yr ARGLWYDD am ichwi drugarhau wrthyf.
22. Ewch yn awr a gwneud yn sicr eto; ceisiwch wybod a gwylio'i lwybrau, a phwy a'i gwelodd yno. Dywedir wrthyf ei fod yn un cyfrwys iawn.
23. Wedi ichwi weld a gwybod ym mha un o'r holl guddfannau y mae'n ymguddio, dewch yn ôl ataf pan fyddwch yn sicr, a dof finnau gyda chwi. Cyhyd â'i fod yn y wlad, fe chwiliaf amdano ym mhob man, ie, trwy holl lwythau Jwda.”
24. Aethant yn ôl i Siff cyn i Saul gyrraedd, ac yr oedd Dafydd a'i wŷr yn niffeithwch Maon, yn yr Araba i'r de o Jesimon.