Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 20:41-42 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

41. Wedi i'r llanc fynd, cododd Dafydd o'r tu ôl i'r garreg, a syrthio ar ei wyneb i'r llawr ac ymgrymu deirgwaith. Yna cusanodd y ddau ei gilydd ac wylo, yn enwedig Dafydd.

42. Ac meddai Jonathan wrth Ddafydd, “Dos mewn heddwch; yr ydym ein dau wedi tyngu yn enw'r ARGLWYDD y bydd yr ARGLWYDD yn dyst rhyngom ni a rhwng ein disgynyddion am byth.” Yna aeth Dafydd i ffwrdd, a dychwelodd Jonathan adref.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 20