14. Os byddaf fyw, gwna drugaredd â mi yn enw'r ARGLWYDD.
15. Ond os byddaf farw, paid byth ag atal dy drugaredd oddi wrth fy nheulu. A phan fydd yr ARGLWYDD wedi torri ymaith holl elynion Dafydd oddi ar wyneb y tir,
16. na fydded Jonathan wedi ei dorri oddi wrth deulu Dafydd; a bydded i'r ARGLWYDD ddial ar elynion Dafydd.”
17. Tyngodd Jonathan eto i Ddafydd am ei fod yn ei garu, oherwydd yr oedd yn ei garu fel ei enaid ei hun.
18. A dywedodd Jonathan wrtho, “Y mae'n newydd-loer yfory, a gwelir dy eisiau pan fydd dy le yn wag; a thrennydd byddant yn chwilio'n ddyfal amdanat.
19. Dos dithau i'r man yr ymguddiaist ynddo adeg y digwyddiad o'r blaen, ac aros yn ymyl y garreg fan draw.
20. Saethaf finnau dair saeth i'w hymyl, fel pe bawn yn saethu at nod.
21. Wedyn anfonaf y llanc a dweud, ‘Dos i nôl y saethau.’ Os byddaf yn dweud wrth y llanc, ‘Edrych, y mae'r saethau y tu yma iti; cymer hwy’, yna tyrd, oherwydd y mae'n ddiogel iti, heb unrhyw berygl, cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw.
22. Ond os dywedaf fel hyn wrth y llencyn: ‘Edrych, y mae'r saethau y tu draw iti’, yna dos, oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn dy anfon i ffwrdd.
23. Bydded yr ARGLWYDD yn dyst am byth rhyngof fi a thi yn y cytundeb hwn a wnaethom ein dau.”
24. Ymguddiodd Dafydd yn y maes; a phan ddaeth y newydd-loer,
25. eisteddodd y brenin i lawr i fwyta'r pryd, a chymryd ei le arferol ar y sedd wrth y pared, gyda Jonathan gyferbyn, ac Abner yn eistedd wrth ochr Saul; ond roedd lle Dafydd yn wag.
26. Ni ddywedodd Saul ddim y diwrnod hwnnw, gan feddwl mai rhyw hap oedd, ac nad oedd yn lân.
27. Ond pan oedd lle Dafydd yn wag drannoeth, ar ail ddiwrnod y newydd-loer, gofynnodd Saul i'w fab Jonathan, “Pam nad yw mab Jesse wedi dod i fwyta, ddoe na heddiw?”