Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 19:22-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

22. Yna fe aeth ef ei hun i Rama, ac wedi iddo gyrraedd y pydew mawr yn Secu a holi ple'r oedd Samuel a Dafydd, dywedodd rhywun eu bod yn Naioth ger Rama.

23. Wrth iddo fynd yno i Naioth ger Rama, disgynnodd ysbryd Duw arno yntau hefyd, ac aeth yn ei flaen dan broffwydo nes dod i Naioth ger Rama.

24. Yno fe ddiosgodd yntau ei ddillad a phroffwydo gerbron Samuel; a gorweddodd yn noeth drwy'r dydd a'r noson honno. Dyna pam y dywedir, “A yw Saul hefyd ymysg y proffwydi?”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 19