Cyn bod yr amser wedi dod i ben, cychwynnodd Dafydd allan gyda'i wŷr, ac aethant a lladd dau gant o ddynion y Philistiaid. Dygodd Dafydd eu blaengrwyn a'u cyflwyno i gyd i'r brenin, er mwyn cael priodi merch y brenin; a rhoddodd Saul ei ferch Michal yn wraig iddo.