Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 15:3-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Dos, yn awr, a tharo'r Amaleciaid, a'u llwyr ddinistrio hwy a phopeth sydd ganddynt; paid â'u harbed, ond lladd bob dyn a dynes, pob plentyn a baban, pob eidion a dafad, pob camel ac asyn.”

4. Felly galwodd Saul y fyddin allan a'u rhestru yn Telaim. Yr oedd dau gan mil o wŷr traed, a deng mil o ddynion Jwda.

5. Pan ddaeth Saul at ddinas yr Amaleciaid, ymguddiodd mewn cwm,

6. a dweud wrth y Ceneaid, “Ewch i ffwrdd, cefnwch ar yr Amaleciaid, rhag imi eich distrywio chwi gyda hwy; oherwydd buoch chwi'n garedig wrth yr holl Israeliaid pan oeddent yn dod i fyny o'r Aifft.” Aeth y Ceneaid ymaith oddi wrth yr Amaleciaid;

7. yna trawodd Saul Amalec o Hafila hyd at Sur ar gwr yr Aifft.

8. Daliodd Agag brenin Amalec yn fyw, ond lladdodd y bobl i gyd â'r cleddyf.

9. Arbedodd Saul a'r fyddin nid yn unig Agag, ond hefyd y gorau o'r defaid a'r gwartheg, yr anifeiliaid breision a'r ŵyn, a phopeth o werth. Nid oeddent yn fodlon difa'r rheini; ond difodwyd popeth gwael a diwerth.

10. Yna daeth gair yr ARGLWYDD at Samuel, yn dweud,

11. “Y mae'n edifar gennyf fy mod wedi gwneud Saul yn frenin, oherwydd y mae wedi cefnu arnaf a heb gadw fy ngorchymyn.” Digiodd Samuel, a galwodd ar yr ARGLWYDD drwy'r nos.

12. Bore trannoeth cododd yn gynnar i gyfarfod â Saul, ond dywedwyd wrtho fod Saul wedi mynd i Garmel, ac wedi codi cofeb iddo'i hun yno cyn troi'n ôl a mynd draw i Gilgal.

13. Wedi i Samuel ddod o hyd i Saul, dywedodd Saul wrtho, “Bendith yr ARGLWYDD arnat! Yr wyf wedi cadw gorchymyn yr ARGLWYDD.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 15