24. Dywedodd Saul wrth Samuel, “Yr wyf wedi pechu, oblegid yr wyf wedi torri gorchymyn yr ARGLWYDD a'th air dithau, am imi ofni'r bobl a gwrando ar eu llais.
25. Maddau'n awr fy mai, a thyrd yn ôl gyda mi, er mwyn imi ymostwng i'r ARGLWYDD.”
26. Ond dywedodd Samuel wrth Saul, “Na ddof; yr wyt wedi gwrthod gair yr ARGLWYDD, ac y mae'r ARGLWYDD wedi dy wrthod di fel brenin ar Israel.”
27. Trodd Samuel i fynd i ffwrdd, ond cydiodd Saul yng nghwr ei fantell, ac fe rwygodd.
28. Ac meddai Samuel wrtho, “Y mae'r ARGLWYDD wedi rhwygo brenhiniaeth Israel oddi wrthyt heddiw, ac am ei rhoi i un yn d'ymyl sy'n well na thi.
29. Nid yw Ysblander Israel yn dweud celwydd nac yn edifarhau, oherwydd nid meidrolyn yw ef, i newid ei feddwl.”
30. Dywedodd Saul eto, “Rwyf ar fai, ond dangos di barch tuag ataf gerbron henuriaid fy mhobl a'r Israeliaid, a thyrd yn ôl gyda mi, er mwyn imi ymostwng gerbron yr ARGLWYDD dy Dduw.”
31. Yna dychwelodd Samuel gyda Saul, ac ymostyngodd Saul gerbron yr ARGLWYDD.
32. A dywedodd Samuel, “Dewch ag Agag brenin Amalec ataf fi.” Daeth Agag ato'n anfoddog, a dweud, “Fe giliodd chwerwder marwolaeth.”
33. Ond dywedodd Samuel:“Fel y gwnaeth dy gleddyf di wragedd yn ddi-blant,felly bydd dy fam dithau'n ddi-blant ymysg gwragedd.”Yna darniodd Samuel Agag gerbron yr ARGLWYDD yn Gilgal.
34. Wedyn aeth Samuel i Rama, a Saul i'w gartref yn Gibea Saul.