Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 15:13-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Wedi i Samuel ddod o hyd i Saul, dywedodd Saul wrtho, “Bendith yr ARGLWYDD arnat! Yr wyf wedi cadw gorchymyn yr ARGLWYDD.”

14. Gofynnodd Samuel, “Beth ynteu yw'r brefu defaid sydd yn fy nghlustiau, a'r sŵn gwartheg yr wyf yn ei glywed?”

15. Dywedodd Saul, “Y bobl sydd wedi dod â hwy oddi wrth yr Amaleciaid, oherwydd y maent wedi arbed y gorau o'r defaid a'r gwartheg er mwyn aberthu i'r ARGLWYDD dy Dduw. Yr ydym wedi difa'r gweddill.”

16. Dywedodd Samuel wrth Saul, “Taw, imi gael dweud wrthyt beth a ddywedodd yr ARGLWYDD wrthyf neithiwr.” Meddai yntau wrtho, “Dywed.”

17. A dywedodd Samuel, “Er iti fod yn fychan yn d'olwg dy hun, oni ddaethost yn ben ar lwythau Israel, a'r ARGLWYDD wedi d'eneinio'n frenin ar Israel?

18. Fe anfonodd yr ARGLWYDD di allan a dweud, ‘Dos a difroda'r pechaduriaid hynny, Amalec, a rhyfela â hwy nes eu difa.’

19. Pam na wrandewaist ar lais yr ARGLWYDD, ond rhuthro ar yr ysbail, a gwneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD?”

20. Dywedodd Saul wrth Samuel, “Ond yr wyf wedi gwrando ar lais yr ARGLWYDD, a mynd fel yr anfonodd ef fi; deuthum ag Agag brenin Amalec yn ôl, a difrodi'r Amaleciaid.

21. Fe gymerodd y bobl beth o'r ysbail, yn ddefaid a gwartheg, y pigion o'r diofryd, er mwyn aberthu i'r ARGLWYDD dy Dduw yn Gilgal.”

22. Yna dywedodd Samuel:“A oes gan yr ARGLWYDD bleser mewn offrymau ac ebyrth,fel mewn gwrando ar lais yr ARGLWYDD?Gwell gwrando nag aberth,ac ufudd-dod na braster hyrddod.

23. Yn wir, pechod fel dewiniaeth yw anufudd-dod,a throsedd fel addoli eilunod yw cyndynrwydd.Am i ti wrthod gair yr ARGLWYDD,gwrthododd ef di fel brenin.”

24. Dywedodd Saul wrth Samuel, “Yr wyf wedi pechu, oblegid yr wyf wedi torri gorchymyn yr ARGLWYDD a'th air dithau, am imi ofni'r bobl a gwrando ar eu llais.

25. Maddau'n awr fy mai, a thyrd yn ôl gyda mi, er mwyn imi ymostwng i'r ARGLWYDD.”

26. Ond dywedodd Samuel wrth Saul, “Na ddof; yr wyt wedi gwrthod gair yr ARGLWYDD, ac y mae'r ARGLWYDD wedi dy wrthod di fel brenin ar Israel.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 15