Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 15:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dywedodd Samuel wrth Saul, “Anfonwyd fi gan yr ARGLWYDD i'th eneinio'n frenin ar ei bobl Israel; felly gwrando'n awr ar eiriau'r ARGLWYDD.

2. Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Yr wyf am gosbi Amalec am yr hyn a wnaeth i Israel, sef eu rhwystro hwy ar y ffordd wrth iddynt ddod i fyny o'r Aifft.’

3. Dos, yn awr, a tharo'r Amaleciaid, a'u llwyr ddinistrio hwy a phopeth sydd ganddynt; paid â'u harbed, ond lladd bob dyn a dynes, pob plentyn a baban, pob eidion a dafad, pob camel ac asyn.”

4. Felly galwodd Saul y fyddin allan a'u rhestru yn Telaim. Yr oedd dau gan mil o wŷr traed, a deng mil o ddynion Jwda.

5. Pan ddaeth Saul at ddinas yr Amaleciaid, ymguddiodd mewn cwm,

6. a dweud wrth y Ceneaid, “Ewch i ffwrdd, cefnwch ar yr Amaleciaid, rhag imi eich distrywio chwi gyda hwy; oherwydd buoch chwi'n garedig wrth yr holl Israeliaid pan oeddent yn dod i fyny o'r Aifft.” Aeth y Ceneaid ymaith oddi wrth yr Amaleciaid;

7. yna trawodd Saul Amalec o Hafila hyd at Sur ar gwr yr Aifft.

8. Daliodd Agag brenin Amalec yn fyw, ond lladdodd y bobl i gyd â'r cleddyf.

9. Arbedodd Saul a'r fyddin nid yn unig Agag, ond hefyd y gorau o'r defaid a'r gwartheg, yr anifeiliaid breision a'r ŵyn, a phopeth o werth. Nid oeddent yn fodlon difa'r rheini; ond difodwyd popeth gwael a diwerth.

10. Yna daeth gair yr ARGLWYDD at Samuel, yn dweud,

11. “Y mae'n edifar gennyf fy mod wedi gwneud Saul yn frenin, oherwydd y mae wedi cefnu arnaf a heb gadw fy ngorchymyn.” Digiodd Samuel, a galwodd ar yr ARGLWYDD drwy'r nos.

12. Bore trannoeth cododd yn gynnar i gyfarfod â Saul, ond dywedwyd wrtho fod Saul wedi mynd i Garmel, ac wedi codi cofeb iddo'i hun yno cyn troi'n ôl a mynd draw i Gilgal.

13. Wedi i Samuel ddod o hyd i Saul, dywedodd Saul wrtho, “Bendith yr ARGLWYDD arnat! Yr wyf wedi cadw gorchymyn yr ARGLWYDD.”

14. Gofynnodd Samuel, “Beth ynteu yw'r brefu defaid sydd yn fy nghlustiau, a'r sŵn gwartheg yr wyf yn ei glywed?”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 15