6. Dywedodd Jonathan wrth y gwas oedd yn cludo'i arfau, “Tyrd, awn drosodd at y gwylwyr dienwaededig acw; efallai y bydd yr ARGLWYDD yn gweithio o'n plaid, oherwydd nid oes dim i rwystro'r ARGLWYDD rhag gwaredu trwy lawer neu drwy ychydig.”
7. Dywedodd cludydd ei arfau wrtho, “Gwna beth bynnag sydd yn dy fryd; dygna arni; rwyf gyda thi, galon wrth galon.”
8. Dywedodd Jonathan, “Edrych yma, fe awn drosodd at y dynion a'n dangos ein hunain iddynt.
9. Os dywedant wrthym, ‘Arhoswch lle'r ydych nes y byddwn wedi dod atoch’, fe arhoswn lle byddwn heb fynd atynt.
10. Ond os dywedant, ‘Dewch i fyny atom’, yna awn i fyny, oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn eu rhoi yn ein llaw; a bydd hyn yn arwydd inni.”
11. Dangosodd y ddau ohonynt eu hunain i wylwyr y Philistiaid, a dywedodd y Philistiaid, “Dyma Hebreaid yn dod allan o'r tyllau lle buont yn cuddio.”
12. A gwaeddodd dynion yr wyliadwriaeth ar Jonathan a'i gludydd arfau, a dweud, “Dewch i fyny atom, i ni gael dangos rhywbeth i chwi.” Dywedodd Jonathan wrth ei gludydd arfau, “Tyrd i fyny ar f'ôl i, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi eu rhoi yn llaw Israel.”
13. Dringodd Jonathan i fyny ar ei ddwylo a'i draed, gyda'i gludydd arfau ar ei ôl. Cwympodd y gwylwyr o flaen Jonathan, a daeth ei gludydd arfau ar ei ôl i'w dienyddio.
14. Y tro cyntaf hwn, lladdodd Jonathan a'i gludydd arfau tuag ugain o ddynion o fewn tua hanner cwys cae.
15. Cododd braw drwy'r gwersyll a'r maes, a brawychwyd holl bobl yr wyliadwriaeth, a'r rheibwyr hefyd, nes bod y wlad yn crynu gan arswyd.
16. Yna gwelodd ysbiwyr Saul oedd yn Gibea Benjamin fod y gwersyll yn rhuthro yma ac acw mewn anhrefn.
17. Dywedodd Saul wrth y bobl oedd gydag ef, “Galwch y rhestr i weld pwy sydd wedi mynd o'n plith.”