Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 14:45-52 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

45. Ond dyma'r bobl yn dweud wrth Saul, “A gaiff Jonathan farw, ac yntau wedi ennill y fuddugoliaeth fawr hon i Israel? Pell y bo! Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, ni chaiff blewyn o wallt ei ben syrthio i'r llawr. Gyda Duw y gweithiodd ef y diwrnod hwn.” Prynodd y bobl ryddid Jonathan, ac ni fu farw.

46. Dychwelodd Saul o ymlid y Philistiaid, ac aeth y Philistiaid adref.

47. Wedi i Saul ennill y frenhiniaeth ar Israel, ymladdodd â'i holl elynion oddi amgylch—Moab, yr Ammoniaid, Edom, brenhinoedd Soba a'r Philistiaid—a'u darostwng ble bynnag yr âi.

48. Gweithredodd yn ddewr, trawodd yr Amaleciaid, a rhyddhaodd Israel o law eu gormeswyr.

49. Jonathan, Isfi a Malcisua oedd meibion Saul. Enw'r hynaf o'i ddwy ferch oedd Merab, ac enw'r ieuengaf Michal.

50. Ahinoam ferch Ahimaas oedd gwraig Saul, ac Abner fab Ner, ewythr Saul, oedd pennaeth ei lu.

51. Yr oedd Cis tad Saul a Ner tad Abner yn feibion i Abiel.

52. Bu rhyfel caled yn erbyn y Philistiaid holl ddyddiau Saul; ac os gwelai Saul ŵr cryf a dewr, fe'i cymerai ato.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 14