Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 13:8-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Arhosodd am saith diwrnod yn ôl y trefniant gyda Samuel, ond ni ddaeth Samuel i Gilgal, a dechreuodd y bobl adael Saul.

9. Dywedodd yntau, “Dygwch ataf y poethoffrwm a'r heddoffrymau.” Ac offrymodd y poethoffrwm.

10. Fel yr oedd yn gorffen offrymu'r poethoffrwm, dyna Samuel yn cyrraedd, ac aeth Saul allan i'w gyfarfod a'i gyfarch.

11. Gofynnodd Samuel, “Beth wyt ti wedi ei wneud?” Atebodd Saul, “Gwelais fod y bobl yn fy ngadael, a'th fod dithau rai dyddiau heb ddod yn ôl y trefniant, a bod y Philistiaid wedi ymgynnull yn Michmas,

12. a dywedais, ‘Yn awr fe ddaw'r Philistiaid i lawr arnaf i Gilgal, a minnau heb geisio ffafr yr ARGLWYDD.’ Felly bu raid imi offrymu'r poethoffrwm.”

13. Dywedodd Samuel wrth Saul, “Buost yn ffôl; pe byddit wedi cadw'r gorchymyn a roddodd yr ARGLWYDD dy Dduw i ti, yn sicr byddai'r ARGLWYDD yn cadarnhau dy frenhiniaeth di ar Israel am byth.

14. Ond yn awr, ni fydd dy frenhiniaeth yn sefyll. Bydd yr ARGLWYDD yn ceisio gŵr yn ôl ei galon, a bydd yr ARGLWYDD yn ei osod ef yn arweinydd ar ei bobl, am nad wyt ti wedi cadw'r hyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD iti.”

15. Cododd Samuel a mynd o Gilgal i'w ffordd ei hun, ond aeth gweddill y bobl i fyny ar ôl Saul i gyfarfod y rhyfelwyr, a dod o Gilgal i Gibea Benjamin.

16. Rhestrodd Saul y bobl oedd gydag ef, ryw chwe chant o wŷr. Yr oedd Saul a'i fab Jonathan a'r gwŷr oedd gyda hwy yn aros yn Gibea Benjamin, a'r Philistiaid yn gwersyllu yn Michmas.

17. Yr oedd tri chwmni yn mynd allan o wersyll y Philistiaid i reibio; un yn troi i gyfeiriad Offra yn ardal Sual,

18. un arall i gyfeiriad Beth-horon, a'r trydydd i gyfeiriad y terfyn uwchben dyffryn Seboim tua'r diffeithwch.

19. Nid oedd gof i'w gael drwy holl wlad Israel, am fod y Philistiaid wedi dweud, “Rhag i'r Hebreaid wneud cleddyf neu waywffon.”

20. Byddai pob Israeliad yn mynd at y Philistiaid i hogi ei swch a'i gaib a'i fwyell a'i gryman;

21. a'r pris oedd deuparth sicl am swch neu gaib, a thraean sicl am hogi'r bwyeill ac am osod swmbwl.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 13