Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 13:20-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Byddai pob Israeliad yn mynd at y Philistiaid i hogi ei swch a'i gaib a'i fwyell a'i gryman;

21. a'r pris oedd deuparth sicl am swch neu gaib, a thraean sicl am hogi'r bwyeill ac am osod swmbwl.

22. Felly, yn nydd rhyfel, nid oedd gan neb o'r bobl oedd gyda Saul a Jonathan gleddyf na gwaywffon, ond yr oedd rhai gan Saul a'i fab Jonathan.

23. Gosododd y Philistiaid wylwyr i warchod bwlch Michmas.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 13