Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 13:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yr oedd Saul yn ddeg ar hugain oed pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin ar Israel am ddeugain mlynedd.

2. Dewisodd Saul dair mil o Israeliaid; yr oedd dwy fil gydag ef yn Michmas ac ucheldir Bethel, a mil gyda Jonathan yn Gibea Benjamin; anfonodd weddill y bobl adref.

3. Lladdodd Jonathan lywodraethwr y Philistiaid oedd yn Geba, a chlywodd y Philistiaid fod Saul wedi galw'r holl wlad i ryfel a bod yr Hebreaid mewn gwrthryfel.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 13