Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 11:7-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Cymerodd yr ychen a'u darnio a'u hanfon drwy holl derfynau Israel yn llaw y negeswyr gyda'r neges, “Pwy bynnag na ddaw allan ar ôl Saul a Samuel, dyma a wneir i'w ychen.” Syrthiodd ofn oddi wrth yr ARGLWYDD ar y genedl, a daethant allan fel un.

8. Rhifwyd hwy yn Besec, ac yr oedd tri chan mil o Israeliaid a deng mil ar hugain o Jwdeaid.

9. A dywedwyd wrth y negeswyr a ddaeth o Jabes, “Dywedwch wrth bobl Jabes-gilead, ‘Erbyn canol dydd yfory cewch waredigaeth.’ ” Pan gyrhaeddodd y negeswyr a dweud wrth bobl Jabes, bu llawenydd.

10. A dywedodd gwŷr Jabes wrth Nahas, “Yfory down allan atoch a chewch wneud a fynnoch â ni.”

11. Trannoeth, rhannodd Saul y bobl yn dair mintai, a daethant i ganol y gwersyll yn ystod y wyliadwriaeth fore a tharo'r Ammoniaid hyd ganol dydd; chwalwyd y gweddill oedd ar ôl, fel nad oedd dau ohonynt gyda'i gilydd.

12. Yna dywedodd y bobl wrth Samuel, “Pwy oedd yn dweud, ‘A gaiff Saul deyrnasu trosom?’? Dygwch y dynion, a rhown hwy i farwolaeth.”

13. Ond dywedodd Saul, “Ni roddir neb i farwolaeth ar y dydd hwn, a'r ARGLWYDD wedi ennill y fath fuddugoliaeth heddiw yn Israel.”

14. Dywedodd Samuel wrth y bobl, “Dewch, awn i Gilgal ac adnewyddu'r frenhiniaeth yno.”

15. Felly aeth y bobl i gyd i Gilgal, a gwneud Saul yn frenin yno yn Gilgal yng ngŵydd yr ARGLWYDD, ac aberthu heddoffrymau yno o flaen yr ARGLWYDD. A bu Saul a holl wŷr Israel yn llawen iawn yno.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 11