Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 11:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Ymhen tua mis aeth Nahas yr Ammoniad i fyny a gwersyllu yn erbyn Jabes-gilead. Dywedodd holl wŷr Jabes wrth Nahas, “Gwna gytundeb â ni, ac fe'th wasanaethwn.”

2. Atebodd Nahas yr Ammoniad, “Ar un amod y gwnaf gytundeb â chwi—bod tynnu llygad de pob un ohonoch; a gosodaf hyn yn sarhad ar Israel gyfan.”

3. Yna meddai henuriaid Jabes wrtho, “Rho inni egwyl o wythnos i anfon negeswyr drwy derfynau Israel i gyd, ac os na chawn neb i'n gwaredu, down allan atat.”

4. Daeth y negeswyr at Gibea Saul ac adrodd am hyn yng nghlyw'r bobl, a chododd pawb ei lais ac wylo.

5. Yna daeth Saul o'r maes yn dilyn ei wedd o ychen a gofynnodd, “Beth sydd ar y bobl, yn wylo?” A mynegwyd wrtho helyntion gwŷr Jabes.

6. Pan glywodd y pethau hyn, disgynnodd ysbryd Duw ar Saul, a ffromodd yn enbyd.

7. Cymerodd yr ychen a'u darnio a'u hanfon drwy holl derfynau Israel yn llaw y negeswyr gyda'r neges, “Pwy bynnag na ddaw allan ar ôl Saul a Samuel, dyma a wneir i'w ychen.” Syrthiodd ofn oddi wrth yr ARGLWYDD ar y genedl, a daethant allan fel un.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 11