Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 10:18-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

18. a dywedodd wrth yr Israeliaid, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw Israel: ‘Myfi a ddaeth ag Israel i fyny o'r Aifft, a'ch achub o law yr Eifftiaid a'r holl deyrnasoedd a fu'n eich gorthrymu.

19. Ond heddiw yr ydych yn gwrthod eich Duw, a fu'n eich gwaredu o'ch holl drueni a'ch cyfyngderau, ac yn dweud wrtho, “Rho inni frenin.” Yn awr, felly, safwch yn rhengoedd o flaen yr ARGLWYDD yn ôl eich llwythau a'ch tylwythau.’ ”

20. Wedi i Samuel gyflwyno pob un o lwythau Israel gerbron yr ARGLWYDD, dewiswyd llwyth Benjamin.

21. Yna cyflwynodd lwyth Benjamin fesul tylwythau, a dewiswyd tylwyth Matri; wedyn dewiswyd Saul fab Cis, ond wedi chwilio amdano, nid oedd i'w gael.

22. Gofynasant eto i'r ARGLWYDD, “A ddaeth y gŵr yma?” A dywedodd yr ARGLWYDD, “Do, y mae'n cuddio ymysg yr offer.”

23. Wedi iddynt redeg a'i gymryd oddi yno a'i osod i sefyll yng nghanol y bobl, yr oedd yn dalach na phawb, o'i ysgwyddau i fyny.

24. Dywedodd Samuel, “A welwch chwi'r un a ddewisodd yr ARGLWYDD? Yn wir nid oes neb o'r holl bobl yn debyg iddo.” Bloeddiodd yr holl bobl a dweud, “Hir oes i'r brenin!”

25. Yna mynegodd Samuel wrth y bobl ddull y frenhiniaeth, a'i ysgrifennu mewn llyfr a'i osod ynghadw gerbron yr ARGLWYDD; yna gollyngodd yr holl bobl, i bob un fynd adref.

26. Aeth Saul yntau adref i Gibea, ac aeth gydag ef fyddin o rai y cyffyrddodd Duw â'u calon.

27. Ond meddai'r dihirod, “Sut y gall hwn ein hachub?” Yr oeddent yn ei ddirmygu, ac ni ddaethant ag anrheg iddo.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 10