Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 4:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Meibion Hela: Sereth, Jesoar, Ethnan.

8. Cos oedd tad Anub, Sobeba, a thylwythau Aharhel fab Harum.

9. Yr oedd Jabes yn bwysicach na'i frodyr; galwodd ei fam ef yn Jabes am iddi, meddai, esgor arno mewn poen.

10. Gweddïodd Jabes ar Dduw Israel, a dweud, “O na fyddit yn fy mendithio ac yn ehangu fy nherfynau! O na fyddai dy law gyda mi i'm hamddiffyn oddi wrth niwed rhag fy mhoeni!” Rhoddodd Duw ei ddymuniad iddo.

11. Celub brawd Sua oedd tad Mehir, tad Eston.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 4