28. Yr oeddent yn byw yn Beerseba, Molada, Hasar-sual,
29. Bilha, Esem, Tolad,
30. Bethuel, Horma, Siclag,
31. Beth-marcaboth, Hasar-susim, Beth-birei a Saaraim. Y rhain oedd eu dinasoedd nes i Ddafydd ddod yn frenin.
32. Eu trefi oedd Etam, Ain, Rimmon, Tochen, Asan; pump i gyd.
33. Ac yr oedd ganddynt bentrefi o gwmpas y trefi hyn hyd at Baal. Yma yr oeddent yn byw, ac yr oeddent yn cadw rhestr o'u hachau:
34. Mesobab, Jamlech, Josa fab Amaseia,
35. Joel; Jehu fab Josibia, fab Seraia, fab Asiel;
36. Elioenai, Jaacoba, Jesohaia, Asaia, Adiel, Jesimiel, Benaia;
37. Sisa fab Siffi, fab Alon, fab Jedaia, fab Simri, fab Semaia.
38. Aeth y rhai a enwyd uchod yn benaethiaid eu teuluoedd, ac fe gynyddodd eu tylwyth yn fawr iawn.
39. Daethant i fwlch Gedor, i'r dwyrain o'r dyffryn, i geisio porfa i'w defaid.
40. Fe gawsant borfa fras a da mewn gwlad eang, dawel a heddychol; oherwydd rhai o dylwyth Ham oedd yn byw yno o'r blaen.
41. Yn nyddiau Heseceia brenin Jwda, daeth y rhai a restrwyd ac ymosod ar bebyll Ham a'r pentrefi oedd ganddynt yno, a'u dinistrio'n llwyr hyd heddiw. Daethant i fyw yno yn eu lle am fod yno borfa i'w praidd.
42. Aeth pum cant ohonynt, o lwyth Simeon, i Fynydd Seir, ac yn eu harwain yr oedd Pelatia, Nearia, Reffaia ac Ussiel, meibion Isi.