Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 4:23-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

23. Y rhain oedd y crochenyddion oedd yn byw yn Netaim a Gedera; yr oeddent yn byw yno yng ngwasanaeth y brenin.

24. Meibion Simeon: Nemuel, Jamin, Jarib, Sera, Saul;

25. Salum ei fab yntau, Mibsam ei fab yntau, Misma ei fab yntau.

26. Meibion Misma: Hamuel, Saccur, Simei.

27. Yr oedd gan Simei un ar bymtheg o feibion a chwech o ferched, ond ychydig o feibion oedd gan ei frodyr; er hynny nid oedd eu holl deulu hwy wedi cynyddu cymaint â meibion Jwda.

28. Yr oeddent yn byw yn Beerseba, Molada, Hasar-sual,

29. Bilha, Esem, Tolad,

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 4