13. Meibion Cenas: Othniel a Seraia; a mab Othniel: Hathath.
14. Meonothai oedd tad Offra; Seraia oedd tad Joab, tad Geharashim, canys crefftwyr oeddent.
15. Meibion Caleb fab Jeffunne: Iru, Ela, Naam; mab Ela: Cenas.
16. Meibion Jehaleleel: Siff, Siffa, Tiria, Asareel.
17. Meibion Esra: Jether, Mered, Effer a Jalon. Bitheia, merch Pharo, gwraig Mered, oedd mam Miriam, Sammai, ac Isba tad Estemoa.
18. Ei wraig Jehwdia oedd mam Jered tad Gedor, Heber tad Socho, a Jecuthiel tad Sanoa.
19. Meibion gwraig Hodeia, chwaer Naham, oedd tad Ceila y Garmiad, a thad Estemoa y Maachathiad.
20. Meibion Simon: Amnon, Rinna, Ben-hanan, Tilon. Meibion Isi: Soheth a Ben-soheth.
21. Meibion Sela fab Jwda: Er tad Lecha, Laada tad Maresa (tylwythau'r rhai o Beth-asbea oedd yn gwneud lliain main);
22. Jocim, dynion Choseba, a Joas a Saraff, a fu'n arglwyddiaethu ar Moab cyn dychwelyd i Fethlehem. (Y mae'r hanesion hyn yn hen.)