Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 4:1-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Meibion Jwda: Phares, Hesron, Carmi, Hur, Sobal.

2. Reaia fab Sobal oedd tad Jahath; a Jahath oedd tad Ahumai a Lahad. Dyma dylwythau'r Sorathiaid.

3. Meibion Etam: Jesreel, Isma, Idbas; enw eu chwaer oedd Haselelponi.

4. Penuel oedd tad Gedor, ac Eser oedd tad Husa. Y rhain oedd meibion Hur, cyntafanedig Effrata, tad Bethlehem.

5. Yr oedd gan Asur tad Tecoa ddwy wraig, Hela a Naara.

6. Naara oedd mam Ahusam, Heffer, Temeni, Hahastari; y rhain oedd meibion Naara.

7. Meibion Hela: Sereth, Jesoar, Ethnan.

8. Cos oedd tad Anub, Sobeba, a thylwythau Aharhel fab Harum.

9. Yr oedd Jabes yn bwysicach na'i frodyr; galwodd ei fam ef yn Jabes am iddi, meddai, esgor arno mewn poen.

10. Gweddïodd Jabes ar Dduw Israel, a dweud, “O na fyddit yn fy mendithio ac yn ehangu fy nherfynau! O na fyddai dy law gyda mi i'm hamddiffyn oddi wrth niwed rhag fy mhoeni!” Rhoddodd Duw ei ddymuniad iddo.

11. Celub brawd Sua oedd tad Mehir, tad Eston.

12. Eston oedd tad Beth-raffa, Pasea, Tehinna tad Irnahas. Y rhain oedd dynion Recha.

13. Meibion Cenas: Othniel a Seraia; a mab Othniel: Hathath.

14. Meonothai oedd tad Offra; Seraia oedd tad Joab, tad Geharashim, canys crefftwyr oeddent.

15. Meibion Caleb fab Jeffunne: Iru, Ela, Naam; mab Ela: Cenas.

16. Meibion Jehaleleel: Siff, Siffa, Tiria, Asareel.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 4