Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 3:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dyma feibion Dafydd. Ganwyd iddo yn Hebron: y cyntafanedig, Amnon, o Ahinoam y Jesreeles; yr ail, Daniel, o Abigail y Garmeles;

2. y trydydd, Absalom, mab Maacha, merch Talmai brenin Gesur, y pedwerydd, Adoneia, mab Haggith;

3. y pumed, Seffateia, o Abital; y chweched, Ithream, o'i wraig Egla.

4. Ganwyd y chwech yma iddo yn Hebron, lle bu'n teyrnasu am saith mlynedd a chwe mis.

5. Teyrnasodd yn Jerwsalem am dair blynedd ar ddeg ar hugain, ac yno fe anwyd y rhain iddo: Simea, Sobab, Nathan a Solomon; Bathsua ferch Ammiel oedd mam y pedwar.

6. Hefyd naw arall, sef Ibhar, Elisama, Eliffelet,

7. Noga, Neffeg, Jaffia,

8. Elisama, Eliada, Eliffelet, naw.

9. Dyma holl feibion Dafydd, heblaw meibion y gordderchwragedd; Tamar oedd eu chwaer.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 3