Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 9:23-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

23. a hwy hefyd oedd prif arolygwyr gwaith Solomon—pum cant a hanner ohonynt, yn rheoli'r gweithwyr.

24. Yr adeg honno ymfudodd merch Pharo o Ddinas Dafydd i fyny i'r tŷ a gododd Solomon iddi; wedyn fe adeiladodd ef y Milo.

25. Byddai Solomon yn offrymu poethoffrymau a heddoffrymau dair gwaith yn y flwyddyn ar yr allor a gododd i'r ARGLWYDD, ac at hynny yn arogldarthu gerbron yr ARGLWYDD. Felly y gorffennodd y tŷ.

26. Creodd y Brenin Solomon lynges yn Esion-geber sydd gerllaw Elath ar lan y Môr Coch yng ngwlad Edom;

27. ac anfonodd Hiram longwyr profiadol o blith ei weision yn y llongau gyda gweision Solomon.

28. Aethant i Offir a dod â phedwar cant ac ugain o dalentau aur oddi yno i'r Brenin Solomon.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 9