13. a dywedodd, “Beth yw'r trefi hyn yr wyt wedi eu rhoi imi, fy mrawd?” A gelwir hwy Gwlad Cabwl hyd heddiw.
14. Chwe ugain talent o aur a anfonodd Hiram at y brenin.
15. Dyma gyfrif y llafur gorfod a bennodd y Brenin Solomon er mwyn adeiladu tŷ'r ARGLWYDD a'i dŷ ei hun, a'r Milo, a hefyd mur Jerwsalem a Hasor, Megido a Geser.
16. Yr oedd Pharo brenin yr Aifft wedi dod a chipio Geser, a'i llosgi, a lladd y Canaaneaid oedd yn byw yn y ddinas, ac yna wedi ei rhoi'n anrheg briodas i'w ferch, gwraig Solomon;
17. ac ailadeiladodd Solomon Geser. Hefyd adeiladodd Beth-horon Isaf,
18. Baalath a Tamar yn y diffeithwch yn nhir Jwda,
19. a'r holl ddinasoedd stôr oedd gan Solomon, a'r dinasoedd cerbydau a'r dinasoedd meirch, a phopeth arall a ddymunai Solomon ei adeiladu, p'run ai yn Jerwsalem neu yn Lebanon neu drwy holl gyrrau ei deyrnas.
20. Gorfodwyd llafur oddi wrth holl weddill poblogaeth yr Amoriaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid, nad oeddent yn perthyn i'r Israeliaid.
21. Yr oedd disgynyddion y rhain yn parhau yn y wlad am nad oedd yr Israeliaid wedi medru eu difa, ac arnynt hwy y gosododd Solomon lafur gorfod sy'n parhau hyd heddiw.
22. Ni wnaeth Solomon yr un o'r Israeliaid yn gaethwas; hwy oedd ei filwyr, ei swyddogion, ei gadfridogion a'i gapteiniaid a phenaethiaid ei gerbydau a'i feirch,
23. a hwy hefyd oedd prif arolygwyr gwaith Solomon—pum cant a hanner ohonynt, yn rheoli'r gweithwyr.
24. Yr adeg honno ymfudodd merch Pharo o Ddinas Dafydd i fyny i'r tŷ a gododd Solomon iddi; wedyn fe adeiladodd ef y Milo.
25. Byddai Solomon yn offrymu poethoffrymau a heddoffrymau dair gwaith yn y flwyddyn ar yr allor a gododd i'r ARGLWYDD, ac at hynny yn arogldarthu gerbron yr ARGLWYDD. Felly y gorffennodd y tŷ.
26. Creodd y Brenin Solomon lynges yn Esion-geber sydd gerllaw Elath ar lan y Môr Coch yng ngwlad Edom;