36. Ar wyneb y platiau a'r panelau cerfiodd gerwbiaid, llewod a phalmwydd, a phlethennau o amgylch pob un.
37. Fel hyn y gwnaeth y deg troli, gyda'r un mold, yr un maint a'r un ffurf i bob un.
38. Hefyd fe wnaeth ddeg noe bres i ddal deugain bath yr un, pob noe yn bedwar cufydd. Gosododd hwy bob yn un ar y deg troli,
39. pum troli ar ochr dde y tŷ, a phump ar yr ochr chwith; a gosododd y môr ar ochr dde-ddwyrain y tŷ.
40. Gwnaeth Hiram y crochanau, y rhawiau a'r cawgiau, a gorffen yr holl waith a wnaeth i'r Brenin Solomon ar gyfer tŷ'r ARGLWYDD:
41. y ddwy golofn, y ddau gnap coronog ar ben y colofnau; y ddau rwydwaith dros y ddau gnap coronog ar ben y colofnau;
42. y pedwar can pomgranad yn ddwy res ar y ddau rwydwaith dros y ddau gnap coronog ar y colofnau; y deg troli;
43. y deg noe ar y trolïau;
44. y môr a'r deuddeg ych dano;
45. y crochanau, y rhawiau, a'r cawgiau. Ac yr oedd yr holl offer hyn a wnaeth Hiram i'r Brenin Solomon ar gyfer tŷ'r ARGLWYDD o bres gloyw.
46. Toddodd y brenin hwy yn y cleidir rhwng Succoth a Sarethan yng ngwastadedd yr Iorddonen.
47. Peidiodd Solomon â phwyso'r holl lestri gan mor niferus oeddent, ac na ellid pwyso'r pres.
48. A gwnaeth Solomon yr holl offer aur oedd yn perthyn i dŷ'r ARGLWYDD: yr allor aur a'r bwrdd aur i ddal y bara gosod;
49. y canwyllbrennau o aur pur, pump ar y dde a phump ar y chwith o flaen y cysegr mewnol; y blodau a'r llusernau a'r gefeiliau aur;