Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 7:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Tair blynedd ar ddeg y bu Solomon yn adeiladu ei dŷ ei hun cyn ei orffen yn llwyr.

2. Adeiladodd Dŷ Coedwig Lebanon, yn gan cufydd o hyd, yn hanner can cufydd o led, a deg cufydd ar hugain o uchder, ar dair rhes o golofnau cedrwydd, gyda thrawstiau cedrwydd ar ben y colofnau.

3. To o gedrwydd oedd uwchben y tulathau ar y pum colofn a deugain, a safai pymtheg ym mhob rhes.

4. Ac yr oedd tair rhes o ffenestri yn wynebu ei gilydd fesul tair.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 7