Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 4:13-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Ben-geber yn Ramoth-gilead (ganddo ef yr oedd Hafoth-jair fab Manasse, sydd yn Gilead, a Hebel-argob, sydd yn Basan—trigain o ddinasoedd mawr â chaerau a barrau pres);

14. Ahinadab fab Ido yn Mahanaim;

15. Ahimaas yn Nafftali (cymerodd ef Basemath, merch Solomon, yn wraig);

16. Baana fab Jusai yn Aser ac Aloth;

17. Jehosaffat fab Parus yn Issachar;

18. Simei fab Ela yn Benjamin;

19. Geber fab Uri yn nhiriogaeth Gilead (gwlad Sihon brenin yr Amoriaid ac Og brenin Basan). Yr oedd un prif raglaw dros y wlad.

20. Yr oedd Jwda ac Israel mor niferus â'r tywod ar lan y môr; yr oeddent yn bwyta ac yn yfed yn llawen.

21. Yr oedd Solomon yn llywodraethu ar yr holl deyrnasoedd o afon Ewffrates drwy wlad Philistia at derfyn yr Aifft, a hwythau'n dwyn teyrnged ac yn gwasanaethu Solomon holl ddyddiau ei fywyd.

22. Ymborth beunyddiol Solomon oedd deg corus ar hugain o beilliaid a thrigain corus o flawd;

23. deg o ychen pasgedig, ac ugain o ychen o'r borfa, a chant o ddefaid, heblaw ceirw, gafrewigod, ewigod, a dofednod breision.

24. Yr oedd yn llywodraethu'n frenin dros y gwledydd i'r gorllewin o'r Ewffrates, o Tiffsa hyd Gasa, dros yr holl frenhinoedd i'r gorllewin o'r afon.

25. Cafodd heddwch ar bob tu, ac yr oedd Jwda ac Israel yn trigo'n ddiogel, holl ddyddiau Solomon, pob un dan ei winwydden a'i ffigysbren, o Dan hyd Beerseba.

26. Yr oedd gan Solomon ddeugain mil o bresebau ar gyfer ei geffylau-cerbyd, a deuddeng mil o feirch.

27. Gofalai'r rhaglawiaid hynny, pob un yn ei fis, am ymborth ar gyfer y Brenin Solomon a phawb a ddôi at ei fwrdd; nid oedd dim yn eisiau.

28. Dygent hefyd haidd a gwellt i'r ceffylau a'r meirch cyflym, i'r man lle'r oedd i fod, pob un yn ôl a ddisgwylid ganddo.

29. Rhoddodd Duw i Solomon ddoethineb a deall helaeth, ac amgyffrediad mor eang â thraeth y môr.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 4