Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 4:10-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Ben-hesed yn Aruboth (ganddo ef yr oedd Socho a holl diriogaeth Heffer);

11. Ben-abinadab yn holl Naffath-dor (Taffath, merch Solomon, oedd ei wraig);

12. Baana fab Ahilud yn Taanach a Megido a holl Beth-sean, sydd gerllaw Sartana, islaw Jesreel, o Beth-sean hyd Abel-mehola a thu hwnt i Jocmeam;

13. Ben-geber yn Ramoth-gilead (ganddo ef yr oedd Hafoth-jair fab Manasse, sydd yn Gilead, a Hebel-argob, sydd yn Basan—trigain o ddinasoedd mawr â chaerau a barrau pres);

14. Ahinadab fab Ido yn Mahanaim;

15. Ahimaas yn Nafftali (cymerodd ef Basemath, merch Solomon, yn wraig);

16. Baana fab Jusai yn Aser ac Aloth;

17. Jehosaffat fab Parus yn Issachar;

18. Simei fab Ela yn Benjamin;

19. Geber fab Uri yn nhiriogaeth Gilead (gwlad Sihon brenin yr Amoriaid ac Og brenin Basan). Yr oedd un prif raglaw dros y wlad.

20. Yr oedd Jwda ac Israel mor niferus â'r tywod ar lan y môr; yr oeddent yn bwyta ac yn yfed yn llawen.

21. Yr oedd Solomon yn llywodraethu ar yr holl deyrnasoedd o afon Ewffrates drwy wlad Philistia at derfyn yr Aifft, a hwythau'n dwyn teyrnged ac yn gwasanaethu Solomon holl ddyddiau ei fywyd.

22. Ymborth beunyddiol Solomon oedd deg corus ar hugain o beilliaid a thrigain corus o flawd;

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 4