1. Yr oedd Solomon yn frenin ar holl Israel.
2. Dyma weinidogion y goron: Asareia fab Sadoc yn offeiriad;
3. Elihoreff ac Ahia, meibion Sisa, yn ysgrifenyddion; Jehosaffat fab Ahilud yn gofiadur;
4. Benaia fab Jehoiada yn bennaeth y fyddin; Sadoc ac Abiathar yn offeiriaid;
5. Asareia fab Nathan yn bennaeth y rhaglawiaid; Sabud fab Nathan, yr offeiriad, yn gyfaill y brenin;
6. Ahisar yn arolygwr y tŷ; Adoniram fab Abda yn swyddog llafur gorfod.
7. Yr oedd gan Solomon ddeuddeg rhaglaw yn holl Israel yn gofalu am ymborth y brenin a'i dŷ; am fis yn y flwyddyn y gofalai pob un am yr ymborth.