1 Brenhinoedd 3:6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)
Dywedodd Solomon, “Buost yn ffyddlon iawn i'm tad Dafydd, dy was, am iddo rodio gyda thi mewn gwirionedd a chyfiawnder a chywirdeb calon. Ie, parheaist yn ffyddlon iawn iddo, a rhoi iddo fab i eistedd ar ei orseddfainc heddiw.