Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 22:39-51 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

39. Onid yw gweddill hanes Ahab, a'r cwbl a wnaeth, a hanes y palas ifori a gododd, a'r holl drefi a adeiladodd, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?

40. A bu farw Ahab, a daeth ei fab Ahaseia i'r orsedd yn ei le.

41. Yn y bedwaredd flwyddyn i Ahab brenin Israel daeth Jehosaffat fab Asa yn frenin ar Jwda.

42. Pymtheg ar hugain oedd ei oed pan ddaeth i'r orsedd, a theyrnasodd am bum mlynedd ar hugain yn Jerwsalem. Asuba merch Silhi oedd enw ei fam.

43. Dilynodd lwybr ei dad Asa yn hollol ddiwyro, a gwneud yr hyn oedd yn uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. Er hynny, ni symudwyd yr uchelfeydd, ac yr oedd y bobl yn parhau i aberthu ac arogldarthu ynddynt.

44. Gwnaeth Jehosaffat heddwch â brenin Israel.

45. Ac onid yw gweddill hanes Jehosaffat, ei hynt a'i wrhydri a'i ryfela, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda?

46. Hefyd fe ddileodd o'r tir yr olaf o buteinwyr y cysegr a adawyd o ddyddiau ei dad Asa.

47. Nid oedd brenin yn Edom. Fe wnaeth rhaglaw'r brenin Jehosaffat

48. long Tarsis i fynd i Offir am aur. Ond nid aeth, oherwydd drylliwyd y llong yn Esion-geber.

49. Yna dywedodd Ahaseia fab Ahab wrth Jehosaffat, “Fe â fy ngweision i gyda'th weision di mewn llongau.” Ond nid oedd Jehosaffat yn fodlon.

50. Bu farw Jehosaffat, a chladdwyd ef gyda'i ragflaenwyr yn ninas ei dad Dafydd, a daeth ei fab Jehoram yn frenin yn ei le.

51. Daeth Ahaseia fab Ahab yn frenin ar Israel yn Samaria yn yr ail flwyddyn ar bymtheg i Jehosaffat brenin Jwda. Teyrnasodd ar Israel am ddwy flynedd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 22