Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 22:3-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. dywedodd brenin Israel wrth ei weision, “A wyddoch chwi mai ni piau Ramoth-gilead? A dyma ni'n dawel ddigon, yn lle ei chipio o law brenin Syria.”

4. A gofynnodd brenin Israel i Jehosaffat, “A ddoi di gyda mi i ryfel i Ramoth-gilead?” Dywedodd Jehosaffat wrth frenin Israel, “Yr wyf fi fel tydi, fy mhobl i fel dy bobl di, fy meirch i fel dy feirch di.”

5. Ond meddai Jehosaffat hefyd wrth frenin Israel, “Cais yn gyntaf hefyd air yr ARGLWYDD.”

6. Yna casglodd brenin Israel y proffwydi, tua phedwar cant ohonynt, a dweud wrthynt, “A ddylwn fynd i fyny i ryfel yn erbyn Ramoth-gilead, ai peidio?” Dywedasant hwythau, “Dos i fyny, ac fe rydd yr ARGLWYDD hi yn llaw'r brenin.”

7. Ond holodd Jehosaffat, “Onid oes yma broffwyd arall i'r ARGLWYDD, i ni ymgynghori ag ef?”

8. Ac meddai brenin Israel wrth Jehosaffat, “Oes, y mae un gŵr eto i geisio'r ARGLWYDD drwyddo, Michea fab Imla; ond y mae'n atgas gennyf, am nad yw'n proffwydo lles i mi, dim ond drwg.” Dywedodd Jehosaffat, “Peidied y brenin â dweud fel yna.”

9. Felly galwodd brenin Israel ar swyddog a dweud, “Tyrd â Michea fab Imla yma ar frys.”

10. Yr oedd brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda yn eu gwisgoedd brenhinol yn eistedd ar eu gorseddau ar y llawr dyrnu wrth borth Samaria, gyda'r holl broffwydi'n proffwydo o'u blaen.

11. Gwnaeth Sedeceia fab Cenaana gyrn haearn, a dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Â'r rhain byddi'n cornio'r Syriaid nes iti eu difa.’ ”

12. Ac yr oedd yr holl broffwydi'n proffwydo felly ac yn dweud, “Dos i fyny i Ramoth-gilead a llwydda; bydd yr ARGLWYDD yn ei rhoi yn llaw'r brenin.”

13. Dywedodd y negesydd a aeth i'w alw wrth Michea, “Edrych yn awr, y mae'r proffwydi'n unfrydol yn proffwydo llwyddiant i'r brenin. Bydded dy air dithau fel gair un ohonynt hwy, a phroffwyda lwyddiant.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 22