Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 22:27-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

27. ‘Fel hyn y dywed y brenin: “Rhowch hwn yng ngharchar, a bwydwch ef â'r dogn prinnaf o fara a dŵr nes imi ddod yn ôl yn llwyddiannus”.’ ”

28. Ac meddai Michea, “Os llwyddi i ddod yn ôl, ni lefarodd yr ARGLWYDD drwof; gwrandewch chwi bobl i gyd.”

29. Aeth brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda i fyny i Ramoth-gilead.

30. A dywedodd brenin Israel wrth Jehosaffat, “Yr wyf fi am newid fy nillad cyn mynd i'r frwydr, ond gwisg di dy ddillad brenhinol.” Newidiodd brenin Israel ei wisg a mynd i'r frwydr.

31. Yr oedd brenin Syria wedi gorchymyn i'r deuddeg capten ar hugain oedd ganddo ar y cerbydau, “Peidiwch ag ymladd â neb, bach na mawr, ond â brenin Israel yn unig.”

32. A phan welodd capteiniaid y cerbydau Jehosaffat, dywedasant, “Hwn yn sicr yw brenin Israel.” Yna troesant i ymladd ag ef; ond rhoddodd Jehosaffat waedd,

33. a phan welodd capteiniaid y cerbydau nad brenin Israel oedd, gadawsant lonydd iddo.

34. A thynnodd rhyw ddyn ei fwa ar antur, a tharo brenin Israel rhwng y darnau cyswllt a'r llurig. A dywedodd yntau wrth yrrwr ei gerbyd, “Tro'n ôl, a dwg fi allan o'r rhengoedd, oherwydd rwyf wedi fy nghlwyfo.”

35. Ond ffyrnigodd y frwydr y diwrnod hwnnw, a bu raid i'r brenin aros yn ei gerbyd yn wynebu'r Syriaid hyd yr hwyr, pan fu farw; a llifodd gwaed yr archoll i waelod y cerbyd.

36. A phan fachludodd yr haul aeth y gri drwy'r gwersyll, “Adref, bawb i'w dref a'i fro; bu farw'r brenin!”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 22