8. Y mae hefyd gyda thi Simei fab Gera, y Benjaminiad o Bahurim; fe'm melltithiodd yn filain y dydd yr euthum i Mahanaim, ond daeth i'm cyfarfod at yr Iorddonen, a thyngais wrtho yn enw'r ARGLWYDD, ‘Ni'th laddaf â'r cleddyf.’
9. Ond yn awr, paid â'i adael yn ddi-gosb; yr wyt yn ŵr doeth, a gwyddost beth i'w wneud iddo; pâr i'w benwynni ddisgyn mewn gwaed i'r bedd.”
10. Bu farw Dafydd, a chladdwyd ef yn Ninas Dafydd.
11. Deugain mlynedd oedd y cyfnod y teyrnasodd Dafydd ar Israel; teyrnasodd yn Hebron am saith mlynedd, ac yn Jerwsalem am dri deg a thair o flynyddoedd.
12. Yna eisteddodd Solomon ar orsedd ei dad Dafydd, a sicrhawyd ei frenhiniaeth yn gadarn.
13. Daeth Adoneia fab Haggith at Bathseba mam Solomon, a dywedodd hi, “Ai mewn heddwch yr wyt yn dod?” Atebodd yntau, “Mewn heddwch.
14. Hoffwn air â thi.” Atebodd hithau, “Llefara.”
15. Yna dywedodd ef, “Fe wyddost mai eiddof fi oedd y frenhiniaeth, ac i holl Israel roi eu bryd ar fy ngwneud yn frenin; ond daeth tro ar fyd, ac aeth y frenhiniaeth i'm brawd; trwy'r ARGLWYDD y cafodd hi.
16. Yn awr y mae gennyf un cais i'w ofyn gennyt; paid â'm gwrthod.” Dywedodd hithau, “Gofyn.”
17. Ac meddai ef, “Gwna gais drosof at y Brenin Solomon am iddo roi Abisag y Sunamees yn wraig imi, oherwydd ni fydd yn dy wrthod di.”
18. A dywedodd Bathseba, “o'r gorau, mi ofynnaf drosot i'r brenin.”
19. Felly aeth Bathseba at y Brenin Solomon i ofyn iddo dros Adoneia. Cododd y brenin i'w chyfarch ac ymgrymodd iddi; yna eisteddodd ar ei orsedd, a gosodwyd gorsedd i fam y brenin eistedd ar ei law dde.
20. Dywedodd hi, “Yr wyf am ofyn un cais bach gennyt; paid â'm gwrthod.” Atebodd y brenin hi, “Gofyn, fy mam, oherwydd ni'th wrthodaf di.”
21. Dywedodd hi, “Rhodder Abisag y Sunamees i'th frawd Adoneia yn wraig.”
22. Ond atebodd y Brenin Solomon ei fam, “A pham yr wyt ti'n gofyn am Abisag y Sunamees i Adoneia? Gofyn hefyd am y deyrnas iddo, oherwydd y mae'n frawd hŷn na mi; gofyn am y deyrnas iddo ef, a hefyd i Abiathar yr archoffeiriad, ac i Joab fab Serfia.”