Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 2:28-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

28. Pan ddaeth y newydd at Joab, a fu'n cefnogi Adoneia—er na chefnogodd Absalom—fe ffodd i babell yr ARGLWYDD a chydiodd yng nghyrn yr allor.

29. Dywedwyd wrth y Brenin Solomon fod Joab wedi ffoi i babell yr ARGLWYDD a'i fod wrth yr allor. Yna anfonwyd Benaia fab Jehoiada gan Solomon â'r gorchymyn, “Dos ac ymosod arno.”

30. Wedi i Benaia ddod i babell yr ARGLWYDD, dywedodd wrtho, “Fel hyn y dywedodd y brenin, ‘Tyrd allan’.” Atebodd yntau, “Na, yma y byddaf farw.”

31. Pan ddygodd Benaia adroddiad yn ôl at y brenin, a mynegi beth oedd ateb Joab, dywedodd y brenin wrtho, “Gwna fel y dywedodd; lladd ef, a'i gladdu, a symud oddi wrthyf ac oddi wrth fy nhylwyth euogrwydd y gwaed a dywalltodd Joab yn ddiachos.

32. Fe ddial yr ARGLWYDD y gwaed arno ef am iddo ymosod, heb i'm tad Dafydd wybod, ar ddau ŵr cyfiawnach a gwell nag ef ei hun, a'u lladd â'r cleddyf, sef Abner fab Ner, tywysog llu Israel, ac Amasa fab Jether, tywysog llu Jwda.

33. Erys eu gwaed hwy ar ben Joab a'i ddisgynyddion yn dragywydd; ond i Ddafydd a'i ddisgynyddion a'i deulu a'i orsedd fe fydd llwydd oddi wrth yr ARGLWYDD yn dragywydd.”

34. Aeth Benaia fab Jehoiada i fyny, ac ymosod ar Joab a'i ladd; a chladdwyd ef yn ei gartref yn yr anialwch.

35. Gosododd y brenin Benaia fab Jehoiada yn bennaeth y fyddin yn lle Joab, a Sadoc yr offeiriad yn lle Abiathar.

36. Yna gwysiodd y brenin Simei a dweud wrtho, “Adeilada dŷ yn Jerwsalem a thrig yno. Paid â symud oddi yno i unman,

37. oherwydd, cymer rybudd, yn y dydd y byddi'n croesi nant Cidron byddi farw'n gelain; bydd dy waed arnat ti dy hun.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 2