Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 2:18-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

18. A dywedodd Bathseba, “o'r gorau, mi ofynnaf drosot i'r brenin.”

19. Felly aeth Bathseba at y Brenin Solomon i ofyn iddo dros Adoneia. Cododd y brenin i'w chyfarch ac ymgrymodd iddi; yna eisteddodd ar ei orsedd, a gosodwyd gorsedd i fam y brenin eistedd ar ei law dde.

20. Dywedodd hi, “Yr wyf am ofyn un cais bach gennyt; paid â'm gwrthod.” Atebodd y brenin hi, “Gofyn, fy mam, oherwydd ni'th wrthodaf di.”

21. Dywedodd hi, “Rhodder Abisag y Sunamees i'th frawd Adoneia yn wraig.”

22. Ond atebodd y Brenin Solomon ei fam, “A pham yr wyt ti'n gofyn am Abisag y Sunamees i Adoneia? Gofyn hefyd am y deyrnas iddo, oherwydd y mae'n frawd hŷn na mi; gofyn am y deyrnas iddo ef, a hefyd i Abiathar yr archoffeiriad, ac i Joab fab Serfia.”

23. A thyngodd y Brenin Solomon i'r ARGLWYDD, “Fel hyn y gwnelo Duw i mi, a rhagor, os nad ar draul ei einioes ei hun y llefarodd Adoneia fel hyn.

24. Yn awr, cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a'm sicrhaodd ac a'm gosododd ar orsedd Dafydd fy nhad, ac a roes imi dylwyth yn ôl ei air, yn ddiau heddiw fe roir Adoneia i farwolaeth.”

25. Yna gwysiodd y Brenin Solomon Benaia fab Jehoiada; ymosododd yntau ar Adoneia, a bu farw.

26. Ac wrth Abiathar yr archoffeiriad dywedodd y brenin, “Dos i Anathoth, i'th fro dy hun, oherwydd gŵr yn haeddu marw wyt ti, ond ni laddaf mohonot y tro hwn, am iti gludo arch yr Arglwydd DDUW o flaen fy nhad Dafydd, ac am iti ddioddef gyda'm tad yn ei holl gystuddiau.”

27. Yna diswyddodd Solomon Abiathar o fod yn archoffeiriad i'r ARGLWYDD, er mwyn cyflawni gair yr ARGLWYDD a lefarodd yn erbyn tylwyth Eli yn Seilo.

28. Pan ddaeth y newydd at Joab, a fu'n cefnogi Adoneia—er na chefnogodd Absalom—fe ffodd i babell yr ARGLWYDD a chydiodd yng nghyrn yr allor.

29. Dywedwyd wrth y Brenin Solomon fod Joab wedi ffoi i babell yr ARGLWYDD a'i fod wrth yr allor. Yna anfonwyd Benaia fab Jehoiada gan Solomon â'r gorchymyn, “Dos ac ymosod arno.”

30. Wedi i Benaia ddod i babell yr ARGLWYDD, dywedodd wrtho, “Fel hyn y dywedodd y brenin, ‘Tyrd allan’.” Atebodd yntau, “Na, yma y byddaf farw.”

31. Pan ddygodd Benaia adroddiad yn ôl at y brenin, a mynegi beth oedd ateb Joab, dywedodd y brenin wrtho, “Gwna fel y dywedodd; lladd ef, a'i gladdu, a symud oddi wrthyf ac oddi wrth fy nhylwyth euogrwydd y gwaed a dywalltodd Joab yn ddiachos.

32. Fe ddial yr ARGLWYDD y gwaed arno ef am iddo ymosod, heb i'm tad Dafydd wybod, ar ddau ŵr cyfiawnach a gwell nag ef ei hun, a'u lladd â'r cleddyf, sef Abner fab Ner, tywysog llu Israel, ac Amasa fab Jether, tywysog llu Jwda.

33. Erys eu gwaed hwy ar ben Joab a'i ddisgynyddion yn dragywydd; ond i Ddafydd a'i ddisgynyddion a'i deulu a'i orsedd fe fydd llwydd oddi wrth yr ARGLWYDD yn dragywydd.”

34. Aeth Benaia fab Jehoiada i fyny, ac ymosod ar Joab a'i ladd; a chladdwyd ef yn ei gartref yn yr anialwch.

35. Gosododd y brenin Benaia fab Jehoiada yn bennaeth y fyddin yn lle Joab, a Sadoc yr offeiriad yn lle Abiathar.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 2