Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 2:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Pan nesaodd y dyddiau i Ddafydd farw, gorchmynnodd i'w fab Solomon, a dweud,

2. “Yr wyf fi ar fynd i ffordd yr holl ddaear; am hynny ymnertha, a bydd yn ddyn.

3. Cadw ofynion yr ARGLWYDD dy Dduw, gan rodio yn ei ffyrdd, ac ufuddhau i'w ddeddfau, ei orchmynion, ei farnedigaethau a'i dystiolaethau, fel yr ysgrifennwyd hwy yng nghyfraith Moses. Yna fe lwyddi ym mhob peth a wnei ym mhle bynnag y byddi'n troi;

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 2