Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 2:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Pan nesaodd y dyddiau i Ddafydd farw, gorchmynnodd i'w fab Solomon, a dweud,

2. “Yr wyf fi ar fynd i ffordd yr holl ddaear; am hynny ymnertha, a bydd yn ddyn.

3. Cadw ofynion yr ARGLWYDD dy Dduw, gan rodio yn ei ffyrdd, ac ufuddhau i'w ddeddfau, ei orchmynion, ei farnedigaethau a'i dystiolaethau, fel yr ysgrifennwyd hwy yng nghyfraith Moses. Yna fe lwyddi ym mhob peth a wnei ym mhle bynnag y byddi'n troi;

4. ac fe gyflawna'r ARGLWYDD ei air, a addawodd wrthyf pan ddywedodd, ‘Os gwylia dy ddisgynyddion eu ffordd, a rhodio ger fy mron mewn gwirionedd, â'u holl galon ac â'u holl enaid, yna ni thorrir ymaith ŵr o'th dylwyth oddi ar orsedd Israel.’

5. “Gwyddost yr hyn a wnaeth Joab fab Serfia â mi, sef yr hyn a wnaeth i ddau gadfridog lluoedd Israel, Abner fab Ner ac Amasa fab Jether; fe'u lladdodd, a thywallt gwaed rhyfel ar adeg heddwch, a thaenu gwaed rhyfel ar y gwregys am ei lwynau a'r esgidiau am ei draed.

6. Am hynny gwna yn ôl dy ddoethineb; paid â gadael i'w benwynni ddisgyn i'r bedd mewn heddwch.

7. Ond bydd yn garedig wrth feibion Barsilai o Gilead; gad iddynt fod ymysg y rhai a fydd yn bwyta wrth dy fwrdd, oherwydd daethant ataf pan oeddwn yn ffoi rhag dy frawd Absalom.

8. Y mae hefyd gyda thi Simei fab Gera, y Benjaminiad o Bahurim; fe'm melltithiodd yn filain y dydd yr euthum i Mahanaim, ond daeth i'm cyfarfod at yr Iorddonen, a thyngais wrtho yn enw'r ARGLWYDD, ‘Ni'th laddaf â'r cleddyf.’

9. Ond yn awr, paid â'i adael yn ddi-gosb; yr wyt yn ŵr doeth, a gwyddost beth i'w wneud iddo; pâr i'w benwynni ddisgyn mewn gwaed i'r bedd.”

10. Bu farw Dafydd, a chladdwyd ef yn Ninas Dafydd.

11. Deugain mlynedd oedd y cyfnod y teyrnasodd Dafydd ar Israel; teyrnasodd yn Hebron am saith mlynedd, ac yn Jerwsalem am dri deg a thair o flynyddoedd.

12. Yna eisteddodd Solomon ar orsedd ei dad Dafydd, a sicrhawyd ei frenhiniaeth yn gadarn.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 2