Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 19:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Mynegodd Ahab i Jesebel y cwbl yr oedd Elias wedi ei wneud, a'i fod wedi lladd yr holl broffwydi â'r cleddyf.

2. Yna anfonodd Jesebel negesydd i ddweud wrth Elias, “Fel hyn y gwnelo'r duwiau i mi, a rhagor, os na fyddaf wedi gwneud dy einioes di fel einioes un ohonynt hwy erbyn yr amser hwn yfory.”

3. Ofnodd yntau a dianc am ei einioes nes dod i Beerseba, oedd yn perthyn i Jwda.

4. Gadawodd ei was yno, ond aeth ef yn ei flaen daith diwrnod i'r anialwch. Pan oedd yn cymryd seibiant dan ryw bren banadl, deisyfodd o'i galon am gael marw, a dywedodd, “Dyma ddigon bellach, O ARGLWYDD; cymer f'einioes, oherwydd nid wyf fi ddim gwell na'm hynafiaid.”

5. Ond wedi iddo orwedd a chysgu dan ryw bren banadl, dyna angel yn ei gyffwrdd ac yn dweud wrtho, “Cod, bwyta.”

6. A phan edrychodd, wrth ei ben yr oedd teisen radell a ffiolaid o ddŵr; a bwytaodd ac yfed ac ailgysgu.

7. Daeth yr angel yn ôl eilwaith a'i gyffwrdd a dweud, “Cod, bwyta, rhag i'r daith fod yn ormod iti.”

8. Cododd yntau a bwyta ac yfed; a cherddodd yn nerth yr ymborth hwnnw am ddeugain diwrnod a deugain nos, hyd at Horeb, mynydd Duw.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 19