Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 17:2-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. Wedyn daeth gair yr ARGLWYDD ato:

3. “Dos oddi yma a thro tua'r dwyrain ac ymguddia yn nant Cerith, sydd i'r dwyrain o'r Iorddonen.

4. Cei yfed o'r nant, a pharaf i gigfrain dy borthi yno.”

5. Aeth yntau a gwneud yn ôl gair yr ARGLWYDD ac aros yn nant Cerith i'r dwyrain o'r Iorddonen.

6. Bore a hwyr dôi cigfrain â bara a chig iddo, ac yfai o'r nant.

7. Ond ymhen amser sychodd y nant o ddiffyg glaw yn y wlad,

8. a daeth gair yr ARGLWYDD ato:

9. “Cod a dos i Sareffath, sydd yn perthyn i Sidon, ac aros yno; wele, yr wyf yn peri i wraig weddw yno dy borthi.”

10. Cododd a mynd i Sareffath, a phan gyrhaeddodd borth y dref, yno'r oedd gwraig weddw yn casglu priciau; galwodd arni a dweud, “Estyn imi gwpanaid bach o ddŵr, imi gael yfed.”

11. Pan aeth i'w 'mofyn, galwodd ar ei hôl, “A thyrd â thamaid o fara imi yn dy law.”

12. Ond meddai hi, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD dy Dduw yn fyw, nid oes gennyf yr un dorth, dim ond llond dwrn o flawd yn y celwrn a diferyn o olew yn y stên; casglu ychydig briciau yr oeddwn er mwyn eu paratoi i mi a'm mab i fwyta, ac yna trengi.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 17