6. Ond bu rhyfel rhwng Rehoboam a Jeroboam ar hyd ei oes.
7. Ac onid yw gweddill hanes Abeiam, a'r cwbl a wnaeth, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda? Bu rhyfel hefyd rhwng Abeiam a Jeroboam.
8. Pan fu farw Abeiam, claddwyd ef yn Ninas Dafydd, a daeth ei fab Asa yn frenin yn ei le.
9. Yn yr ugeinfed flwyddyn i Jeroboam brenin Israel y daeth Asa yn frenin Jwda.
10. Teyrnasodd am un mlynedd a deugain yn Jerwsalem, a Maacha merch Abisalom oedd enw ei fam.
11. Gwnaeth Asa yr hyn oedd yn uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yr un fath â'i dad Dafydd.
12. Trodd buteinwyr y cysegr allan o'r wlad a symud ymaith yr eilunod a wnaeth ei ragflaenwyr.
13. At hyn fe ddiswyddodd ei fam Maacha o fod yn fam frenhines, am iddi lunio ffieiddbeth ar gyfer Asera. Drylliodd Asa ei delw a'i llosgi yn nant Cidron.
14. Ni symudwyd yr uchelfeydd; eto yr oedd calon Asa yn berffaith gywir i'r ARGLWYDD ar hyd ei oes.