Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 15:5-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. am fod Dafydd wedi gwneud yr hyn oedd yn uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, heb wyro oddi wrth ddim a orchmynnodd iddo drwy ei oes, ar wahân i achos Ureia'r Hethiad.

6. Ond bu rhyfel rhwng Rehoboam a Jeroboam ar hyd ei oes.

7. Ac onid yw gweddill hanes Abeiam, a'r cwbl a wnaeth, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda? Bu rhyfel hefyd rhwng Abeiam a Jeroboam.

8. Pan fu farw Abeiam, claddwyd ef yn Ninas Dafydd, a daeth ei fab Asa yn frenin yn ei le.

9. Yn yr ugeinfed flwyddyn i Jeroboam brenin Israel y daeth Asa yn frenin Jwda.

10. Teyrnasodd am un mlynedd a deugain yn Jerwsalem, a Maacha merch Abisalom oedd enw ei fam.

11. Gwnaeth Asa yr hyn oedd yn uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yr un fath â'i dad Dafydd.

12. Trodd buteinwyr y cysegr allan o'r wlad a symud ymaith yr eilunod a wnaeth ei ragflaenwyr.

13. At hyn fe ddiswyddodd ei fam Maacha o fod yn fam frenhines, am iddi lunio ffieiddbeth ar gyfer Asera. Drylliodd Asa ei delw a'i llosgi yn nant Cidron.

14. Ni symudwyd yr uchelfeydd; eto yr oedd calon Asa yn berffaith gywir i'r ARGLWYDD ar hyd ei oes.

15. Dygodd i dŷ'r ARGLWYDD yr addunedau o arian, aur a llestri a addawodd ei dad ac yntau.

16. Bu rhyfel rhwng Asa a Baasa brenin Israel ar hyd eu hoes.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 15