Hen Destament

Testament Newydd

1 Brenhinoedd 15:2-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. Teyrnasodd am dair blynedd yn Jerwsalem, a Maacha merch Abisalom oedd enw ei fam.

3. Dilynodd yr holl bechodau a gyflawnodd ei dad o'i flaen, a'i galon heb fod yn berffaith gywir i'r ARGLWYDD ei Dduw fel yr oedd calon ei dad Dafydd.

4. Ond er mwyn Dafydd rhoddodd yr ARGLWYDD ei Dduw lamp iddo yn Jerwsalem, a sefydlu ei fab ar ei ôl a sicrhau Jerwsalem,

5. am fod Dafydd wedi gwneud yr hyn oedd yn uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, heb wyro oddi wrth ddim a orchmynnodd iddo drwy ei oes, ar wahân i achos Ureia'r Hethiad.

6. Ond bu rhyfel rhwng Rehoboam a Jeroboam ar hyd ei oes.

7. Ac onid yw gweddill hanes Abeiam, a'r cwbl a wnaeth, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda? Bu rhyfel hefyd rhwng Abeiam a Jeroboam.

8. Pan fu farw Abeiam, claddwyd ef yn Ninas Dafydd, a daeth ei fab Asa yn frenin yn ei le.

9. Yn yr ugeinfed flwyddyn i Jeroboam brenin Israel y daeth Asa yn frenin Jwda.

10. Teyrnasodd am un mlynedd a deugain yn Jerwsalem, a Maacha merch Abisalom oedd enw ei fam.

11. Gwnaeth Asa yr hyn oedd yn uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yr un fath â'i dad Dafydd.

12. Trodd buteinwyr y cysegr allan o'r wlad a symud ymaith yr eilunod a wnaeth ei ragflaenwyr.

13. At hyn fe ddiswyddodd ei fam Maacha o fod yn fam frenhines, am iddi lunio ffieiddbeth ar gyfer Asera. Drylliodd Asa ei delw a'i llosgi yn nant Cidron.

14. Ni symudwyd yr uchelfeydd; eto yr oedd calon Asa yn berffaith gywir i'r ARGLWYDD ar hyd ei oes.

15. Dygodd i dŷ'r ARGLWYDD yr addunedau o arian, aur a llestri a addawodd ei dad ac yntau.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Brenhinoedd 15